CROESO I WEFAN UNDODIAID CAERDYDD
Mae Undodiaid Caerdydd yn cwrdd yn Nhŷ Cwrdd y Crynwyr, Heol Siarl, Caerdydd.
Ceir Gwasanaeth Cymraeg ar ail Sul y Mis am 4.00 o’r gloch. Gwasanaeth Saesneg bob
Sul arall am 4.00 o’r gloch.
Ar yr ail Sul ym Mehefin a Medi, cynhelir gwasanaethau Cymraeg yng Nghapel Penrhiw, Amgueddfa Sain Ffagan am 4.00 o'r gloch.
Cynhelir Clwb y Sul i blant am 4.00 o'r gloch ar bob bedwaredd Sul o'r mis
Mae’r Undodiaid yn gymuned ysbrydol sy’n eich annog i feddwl dros eich hun.
SAIL Y FFYDD
• Credwn fod yn rhaid i berson feithrin ffydd yn ei gyd-ddyn.
• Mae Crefydd yn antur i'r Undodwr ac fe anogir pob person ddatrys a llunio ei grefydd yn ôl ei gydwybod ei hun.
• Credwn mai daioni yw'r sail yr adeiladwyd pob person arno. Ni allem gredu fod unrhyw berson wedi cael ei eni i bechod. Mae'n gobaith wedi ei seilio ar ddaioni.
• Credwn yn y gallu sydd gan bob person i ddehongli ei grefydd yn ôl ei gydwybod ei hun..
Y peth pwysig yw nid yn gymaint yr hyn a gredwn ond ffordd rydym yn trosi’r hyn a
gredwn i weithred, a chyfrifoldeb gwŷr a gwragedd y byd yw hynny.
Felly fe gredwn mewn cyfrifoldeb ar gyfer bobl a dealltwriaeth rhwng dyn a’i gyd-ddyn.
CROESO'R UNDODIAID
Mae'r UNDODIAID yn eich croesawi:
• i brofi crefydd rydd ac ymchwilgar;
• i brofi tyfiant ysbrydol, wedi ei gyfoethogi gan ddealltwriaeth o'r Grefydd Gristnogol a Chrefyddau eraill; i addoli Duw a dathlu bywyd.
• i adeiladu cymuned grefyddol, groesawgar a chynwysedig; i barchu'r greadigaeth; I ymrwymo dros gyfiawnder cymdeithasol a gwasanaethu'r sawl sydd mewn angen.
CYSYLLTIADAU GYDA UNDODIAID ERAILL
Mae 22 o gynulleidfaoedd Undodaidd yng Ngymru, Mae 13 o'r cynulleidfaoedd hynny yng
Ngheredigion, rhwng Llandysul a Llanbedr Pont Steffan. Cyfeirir ato fel "Y Smotyn Du". Mae
wyth cynulleidfa yn y
De Dwyrain
- Y Wîg ym Mro Morgannwg, Notais, Trebanos,
Gellionnen, Aberdâr, Cefncoed-y-Cymer, Abertawe yn ogystal â Chaerdydd. Mae cynulleidfa
yng Nghaerfyrddin a chynulleidfa newydd ei sefydlu ym Mangor.
Mae pob un o'r cynulleidfaoedd hyn yn perthyn i Gymanfa Gyffredinol yr Undodiaid gyda
phencadlys yn Llundain, ond fe drefnir y gwaith yng Nghymru gan y
Gyfadran Undodaidd
sy'n gweithredu fel dolen gyswllt rhwng y Gymanfa Gyffredinol â'r cynulleidfaoedd yng
Nghymru.
Yn ogystal, mae gan Undodiaid y Ddeyrnas Unedig cysylltiadau rhyngwladol gyda gwledydd
megis Yr Unol Dalaethau, Yr Almaen, Ffrainc, India, Rwmania a Thransylfania.


