Llun drwy garedigrwydd Roger Clive-Powell

Llun o hen gapel Llwynrhydowen ger Pontsian yng Ngheredigion (1733). Cafodd y gynulleidfa ei throi allan o'r capel gan y perchennog tir lleol wedi etholiad 1868. Mae Ymddiriedolaeth Addoldai Cymru yn adnewyddu'r adeilad.

Photograph of the old chapel at Llwynrhydowen near Pontsian in Ceredigion (1733) from which the congregation was ejected by the local landowner after the 1868 Election . Now being restored by the Welsh Religious Buildings Trust.

Undodiaid Cymru yng Nghymru. Mae 13 o'r cynulleidfaoedd hynny yng Ngheredigion rhwng Llandysul a Llanbedr Pont Steffan a thuag at Aberaeron. Cyfeirir ato fel y Smotyn Du. Mae saith cynulleidfa yn y De Ddwyrain - y Wig ym Mro Morgannwg, Notais, Trebanos, Aberdar, Cefncoed yn ogystal a Chaerdydd ac Abertawe. Mae cynulleidfa yng Nghaerfyrddin a chynulleidfa newydd ei sefydlu ym Mangor - yr unig un mor belled yng ngogledd Cymru.

Cyfadran Undodaidd

Mae pob un o'r cynulleidfaoedd hyn yn perthyn i Gymanfa Gyffredinol yr Undodiaid gyda'i phencadlys yn Llundain ond fe drefnir y gwaith yng Nghymru gan y Gyfadran Undodaidd. Mae'r Gyfadran Undodaidd yn gweithredu fel dolen gyswllt rhwng y Gymanfa Gyffredinol a'r cynulleidfaoedd yng Nghymru ac yn trefnu gwahanol agweddau enwadol fel cyhoeddusrwydd, llyfrau a phamphledi, gwaith ieuenctid, cynadleddau,y weinidogaeth yn ogystal a bod yn yn ddolen gyswllt rhwng dwy Gymdeithas, un ym Morgannwg a'r Gymdeithas Gymraeg yng Ngeredigion.